Finance Secretary Mark Drakeford will today announce £10.3m of EU funding for the marine technology sector on a visit to Pembroke Dock Tuesday 11th September.
The EU funding will support the design and testing of a fully-submerged membrane-style wave energy convertor capable of generating large amounts of electricity – paving the way for the developers, Bombora Wave Power Europe, to construct and commercialise the technology from its Pembrokeshire base.
The £15m project is expected to create up to 20 skilled jobs in South West Wales, supporting the local economy and creating opportunities for communities in Pembrokeshire.
This latest EU funding allocation follows substantial EU and Welsh Government investment in Wales’ marine energy industry, including demonstration zones in Pembrokeshire and Anglesey and support for technology developers based in Wales.
Professor Drakeford said:
“We want Wales to be at the forefront of research and innovation in the marine energy field and I am delighted to announce more than £10m of EU funding to help develop technology that creates large amounts of renewable electricity.”
“Developers from across the globe are showing an active interest in developing projects in Welsh waters, recognising Wales has one of the best marine energy resources and support structures to be found anywhere.”
“It’s a very exciting time for marine energy in Wales and this initiative is another major step in building a thriving industry in Pembrokeshire and Wales”
Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs, Lesley Griffiths, said:
“This investment is excellent news for the local economy and the wider marine technology industry. Clean energy will play an important role in the development of our prosperous, low carbon economy and help us deliver our aim of reducing emissions by at least 80% by 2050.”
Bombora Wave Power Europe’s Managing Director, Sam Leighton said:
“Bombora is very grateful to secure the £10.3m EU support package for our exciting 1.5MW trial project. Since setting up our European headquarters in Pembrokeshire last year we have been working with local suppliers and have quickly grown our talented team to work on this exciting new project.”
£10.3m o gyllid yr UE yn rhoi hwb i sector technoleg y môr yng Nghymru
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford heddiw yn cyhoeddi gwerth £10.3m o gyllid yr UE i’r sector technoleg y môr wrth iddo ymweld â Doc Penfro Tuesday 11th September.
Bydd cyllid yr UE yn helpu i ddylunio a phrofi teclyn i’w osod o dan y môr i gynhyrchu symiau mawr o drydan o’r tonnau – gan arwain y ffordd i’r datblygwyr, Bombora Wave Power Europe adeiladu a masnacheiddio’r dechnoleg o’r ganolfan yn Sir Benfro.
Disgwylir i’r prosiect gwerth £15m greu hyd at 20 o swyddi medrus yn y De-orllewin, gan gefnogi’r economi leol a chreu cyfleoedd i gymunedau yn Sir Benfro.
Mae’r dyraniad diweddaraf hwn o gyllid yr UE yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan yr UE a Llywodraeth Cymru yn niwydiant ynni’r môr yng Nghymru, gan gynnwys ardaloedd arddangos yn Sir Benfro ac Ynys Môn a chefnogaeth i ddatblygwyr technoleg yng Nghymru.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
“Rydyn ni am i Gymru fod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi ym maes ynni’r môr, ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi dros £10m o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i helpu i ddatblygu technoleg sy’n creu symiau mawr o drydan adnewyddadwy.”
“Mae datblygwyr o bob cwr o’r byd yn dangos diddordeb mewn datblygu prosiectau yn nyfroedd Cymru, gan gydnabod bod gan Gymru rai o’r adnoddau a strwythurau cymorth gorau ym maes ynni’r môr.”
“Mae’n amser cyffrous iawn i ynni’r môr yng Nghymru, ac mae’r fenter hon yn gam pwysig arall i adeiladu diwydiant ffyniannus yn Sir Benfro ac yng Nghymru gyfan.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn newyddion ardderchog i’r economi leol a’r diwydiant technoleg y môr yn ehangach. Bydd ynni glân yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein heconomi carbon isel ffyniannus, ac yn ein helpu i gyflawni ein nod o ostwng allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050.”
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Bombora Wave Power Europe, Sam Leighton:
“Mae Bombora yn ddiolchgar iawn am y pecyn cymorth gwerth £10.3m gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ein prosiect prawf 1.5MW cyffrous. Ers sefydlu’n pencadlys Ewropeaidd yn Sir Benfro llynedd, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda chyflenwyr lleol ac wedi ehangu ein tîm talentog yn gyflym i weithio ar y prosiect newydd cyffrous hwn.”